1-3 O Arglwydd, clyw fy ngweddi; doedFy llef hyd atat ti.Na chudd dy wyneb rhagof; boedIt glywed ing fy nghri.Dyro im ateb yn ddi-oed,Cans darfod yr wyf fi,A’m holl gorff yn llosgi megis ffwrn.
4-7 Gwywo fel glaswellt a fu’n ir,A nychu yw fy ffawd.Oherwydd sŵn f’ochneidio hir,Mae f’esgyrn trwy fy nghnawd.Yr wyf fel brân mewn anial dir,Tylluan adfail tlawd,Fel aderyn unig ar ben to.
8-11 I’m gwawdwyr nid yw f’enw iOnd rheg o flaen y byd.Lludw fy mwyd, a dagrau’n lliA yfaf. Yn dy lidFy mwrw o’r neilltu a wnaethost ti;Mae ’mywyd i i gydMegis cysgod hwyr neu laswellt gwyw.
12-15 Arglwydd, am byth gorseddwyd di;Fe godi i drugarhau;Canys fe ddaeth yr amser iDosturio wrth Seion frau.Hoff gan dy weision ei llwch hi.Pan ddeui i’w chryfhauBydd cenhedloedd byd yn crynu o’th flaen.