1-5 Bendithied y cyfan sydd ynofLân enw yr Arglwydd o hyd.Na foed im anghofio’i holl ddoniau:Mae’n maddau ’nhroseddau i gyd.Ef sydd yn iacháu fy afiechyd,Ac yn fy ngwaredu o Sheol.Y mae’n fy nghoroni â chariad,Yn dwyn fy ieuenctid yn ôl.
6-9 Mae’r Arglwydd yn gwneuthur cyfiawnderI bawb sydd dan orthrwm a thrais.Fe ddysgodd ei ffyrdd gynt i Moses,A chlywodd plant Israel ei lais.Trugarog a graslon yw’r Arglwydd;Ni lidia; mae’n ffyddlon ddi-lyth.Nid yw yn ceryddu’n ddiddiweddNa meithrin ei ddicter am byth.
10-14 Ni thalodd i ni ein troseddau,Ond, fel y mae’r nef dros y byd,Mae’i gariad ef dros bawb a’i hofna.Pellhaodd ein pechod i gydMor bell oddi wrthym ag ydyw’rGorllewin o’r dwyrain; cans gŵyrMai llwch ydym ni, ac, fel rhiantWrth blentyn, tosturia yn llwyr.
15-18 Mae’n dyddiau ni megis glaswelltyn.Blodeuwn fel blodau ar ddôl;Ond pan ddaw y gwynt, fe ddiflannwn:Ni ddeuwn i’n cartref yn ôl.Ond y mae ffyddlondeb yr ArglwyddA’i iawnder am byth yn parhauI’r rhai sydd yn cadw’i gyfamodA’i ddeddfau, ac yn ufuddhau.