24-26 Doeth a niferus iawnYw gwaith dy law, O Dduw:Mae’r ddaear lydan oll yn llawnO’th greaduriaid byw;A’r môr â’i bysg di-ri,A’i longau o bob llun,A Lefiathan, a wnest tiEr sbort i ti dy hun.
27-30 Arnat dibynnu a wnântAm ymborth yn ei bryd.Pan roi, fe’u casglant, ac fe gântEu llwyr ddiwallu i gyd.Pan ei â’u hanadl frau,Dychwelant yn llwch mud,Ond daw dy anadl di i fywhauAc adnewyddu’r byd.
31-32 Gogoniant Duw a fo’nDragywydd a di-goll.A bydded iddo lawen sônAm ei weithredoedd oll.Pan fwria’i drem i’r llawr,Fe bair ddaeargrynfeydd;Pan gyffwrdd â’r mynyddoedd mawr,Fe fygant gan losgfeydd.
33-35 Canaf i’r Arglwydd gân,A’i foli tra bwyf byw,A boed fy myfyrdodau’n lânA chymeradwy i Dduw.Yr anfad yn ein plith,Erlidied hwy o’u tref.Bendithiaf fi yr Arglwydd byth,A molwch chwithau ef.