16-17a Ni fu hwn erioed yn ffyddlon,Ond melltithiodd y rhai tlodionA’r drylliedig hyd at angau.Deued melltith arno yntau.
17b-19 Gan na hoffai ef fendithio,Pell fo bendith oddi wrtho.Gwisgodd felltith megis dillad;Bydded hon amdano’n wastad.”
20-21 Hyn a fo dy dâl, O Arglwydd,I’m cyhuddwyr; tyrd yn ebrwydd,Er mwyn d’enw, i weithreduDrosof fi, ac i’m gwaredu.
22-24 Tlawd a thruan wyf; fe dderfyddF’egni megis cysgod hwyrddydd.Mae fy ngliniau’n wan gan ympryd;Tenau ydwyf a newynllyd.
25-26 Rwy’n gyff gwawd i bawb; pan welantFi, eu pennau a ysgydwant.Arglwydd, cymorth fi mewn llesgedd,Achub fi yn dy drugaredd.
27-29 Dangos iddynt dy lareidd-dra;Pan felltithiant hwy, bendithia.Deued mawr gywilydd arnynt,Boed eu gwarth fel gwisg amdanynt.
30-31 Yng ngwydd tyrfa fawr moliannafFi yr Arglwydd; fe’i clodforaf.Ar ddeheulaw’r tlawd, digysur,Saif i’w achub rhag cyhuddwyr.