1-3 Dyro di ogoniant,Arglwydd, nid i ni,Ond i’th enw, canysCariad ydwyt ti.Pam yr hola’r gwledydd,“Ple y mae eu Duw?”Mae’n Duw ni’n y nefoedd;Crëwr popeth yw.
9 Israel, ymddiriedaYn yr Arglwydd Dduw,Cans dy gymorth parodDi, a’th darian yw.
4-6a Duwiau y cenhedloedd,Delwau ŷnt bob un,Delwau aur ac arianO waith dwylo dyn.Y mae ganddynt enau,Ond y maent yn fud;Dall eu llygaid; byddarYw eu clustiau i gyd.
10 O dŷ Aaron, credwchYn yr Arglwydd Dduw,Cans eich cymorth parodChwi, a’ch tarian yw.
6b-8 Ffroenau nad aroglant,Dwylo na wnânt waithSydd i’r delwau mudion:Traed na cherddant chwaith.Y mae eu gwneuthurwyrYr un mor ddi-werth,A phawb sy’n ymddiriedYn eu grym a’u nerth.
11 Chwi sy’n ofni’r Arglwydd,Rhowch eich cred yn Nuw,Cans eich cymorth parodChwi, a’ch tarian yw.
12-14 Y mae Duw’n ein cofio,A’n bendithio a wna.Fe fendithia IsraelA thy Aaron dda,A phawb sy’n ei ofni,Boed yn fach neu’n fawr.Amlhaed Duw chwiOll, a’ch plant yn awr.