101-104 Mi gedwais fy nhraed rhag drwg lwybr,Er mwyn imi gadw dy air.Ni throais fy nghefn ar dy farnau,Cans fe’m cyfarwyddaist yn daer.Mor felys d’addewid i’m genau,Melysach i’m gwefus na mêl.D’ofynion sy’n rhoi imi ddeall;Casâf lwybrau twyll, doed a ddêl.Gwalchmai 74.74.D
105-108 Llusern yw dy air i’m troed,Golau i’m llwybrau.Mi ymrwymais i erioedI’th holl farnau.Yn ôl d’air, adfywia fiO’m gofidiau.Clyw fy nheyrnged, a dysg diIm dy ddeddfau.
109-112 Cofio a wnaf dy gyfraith diMewn peryglon;Er holl rwydau’r gelyn, miWnaf d’ofynion.Dy farnedigaethau ywFy llawenydd,Ac i’th ddeddfau tra bwyf bywByddaf ufudd.Eirinwg 98.98.D
113-116 Yr wyf yn casáu rhai anwadal,Ond caraf dy gyfraith yn fawr.Ti ydyw fy lloches a’m tarian;Yn d’air y gobeithiaf bob awr.Trowch ymaith, rai drwg, oddi wrthyf,A chadwaf orchmynion fy Nuw.O cynnal fi, na’m cywilyddier,Ac, yn ôl d’addewid, caf fyw.
117-120 O dal fi, a chaf waredigaeth,A pharchaf dy ddeddfau o hyd.Gwrthodi wrthodwyr dy ddeddfau,Oherwydd mai twyll yw eu bryd.Ystyri’r drygionus yn sothach,Ond minnau, mi garaf hyd bythDy farnedigaethau, a chrynafMewn ofn rhag dy farnau di-lyth.Crug-y-bar 98.98.D
121-124 Mi wneuthum i farn a chyfiawnder,Na ad fi i’m gorthrymwyr, ond byddYn feichiau i’th was; paid â gadaelI’r beilchion fy llethu bob dydd.Rwy’n nychu am dy iachawdwriaeth,Am weled cyfiawnder dy ras.O delia â mi yn dy gariad,A dysga dy ddeddfau i’th was.
125-128 Dy was ydwyf fi; rho im ddeallDy farnedigaethau o hyd.Mae’n amser i’r Arglwydd weithredu,Cans torrwyd dy gyfraith i gyd.Er hynny, rwy’n caru d’orchmynionYn fwy, ie’n fwy, nag aur drud.Mi gerddaf yn ôl dy ofynion;Casâf lwybrau dichell y byd.Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D