Salmau 119:113-116-137-138 SCN

113-116 Yr wyf yn casáu rhai anwadal,Ond caraf dy gyfraith yn fawr.Ti ydyw fy lloches a’m tarian;Yn d’air y gobeithiaf bob awr.Trowch ymaith, rai drwg, oddi wrthyf,A chadwaf orchmynion fy Nuw.O cynnal fi, na’m cywilyddier,Ac, yn ôl d’addewid, caf fyw.

117-120 O dal fi, a chaf waredigaeth,A pharchaf dy ddeddfau o hyd.Gwrthodi wrthodwyr dy ddeddfau,Oherwydd mai twyll yw eu bryd.Ystyri’r drygionus yn sothach,Ond minnau, mi garaf hyd bythDy farnedigaethau, a chrynafMewn ofn rhag dy farnau di-lyth.Crug-y-bar 98.98.D

121-124 Mi wneuthum i farn a chyfiawnder,Na ad fi i’m gorthrymwyr, ond byddYn feichiau i’th was; paid â gadaelI’r beilchion fy llethu bob dydd.Rwy’n nychu am dy iachawdwriaeth,Am weled cyfiawnder dy ras.O delia â mi yn dy gariad,A dysga dy ddeddfau i’th was.

125-128 Dy was ydwyf fi; rho im ddeallDy farnedigaethau o hyd.Mae’n amser i’r Arglwydd weithredu,Cans torrwyd dy gyfraith i gyd.Er hynny, rwy’n caru d’orchmynionYn fwy, ie’n fwy, nag aur drud.Mi gerddaf yn ôl dy ofynion;Casâf lwybrau dichell y byd.Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D

129-132 Rhyfeddol dy farnedigaethau;Am hynny fe’u cadwaf i gyd.Pan roddi dy air, mae’n goleuo;Rhydd ddeall i’r syml ei fryd.Rwy’n agor fy ngenau i flysioD’orchmynion; O Dduw, trugarha;Tro ataf, yn unol â’th arferI’r rhai sy’n dy garu di’n dda.

133-136 O cadw fy ngham i yn sicr;Na rwystred drygioni dy was.Rhyddha fi rhag gormes a gorthrwm,A chadwaf ofynion dy ras.Boed llewyrch dy wyneb di arnaf,A dysga dy ddeddfau i mi.Rwy’n wylo am nad ydyw poblYn cadw dy lân gyfraith di.Dwedwch, fawrion o wybodaeth 88.88

137-138 Arglwydd, yr wyt ti yn gyfiawn,Ac y mae dy farnau’n uniawn.Cyfiawn dy farnedigaethau,Cwbl ffyddlon ydwyt tithau.