121-124 Mi wneuthum i farn a chyfiawnder,Na ad fi i’m gorthrymwyr, ond byddYn feichiau i’th was; paid â gadaelI’r beilchion fy llethu bob dydd.Rwy’n nychu am dy iachawdwriaeth,Am weled cyfiawnder dy ras.O delia â mi yn dy gariad,A dysga dy ddeddfau i’th was.
125-128 Dy was ydwyf fi; rho im ddeallDy farnedigaethau o hyd.Mae’n amser i’r Arglwydd weithredu,Cans torrwyd dy gyfraith i gyd.Er hynny, rwy’n caru d’orchmynionYn fwy, ie’n fwy, nag aur drud.Mi gerddaf yn ôl dy ofynion;Casâf lwybrau dichell y byd.Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D
129-132 Rhyfeddol dy farnedigaethau;Am hynny fe’u cadwaf i gyd.Pan roddi dy air, mae’n goleuo;Rhydd ddeall i’r syml ei fryd.Rwy’n agor fy ngenau i flysioD’orchmynion; O Dduw, trugarha;Tro ataf, yn unol â’th arferI’r rhai sy’n dy garu di’n dda.
133-136 O cadw fy ngham i yn sicr;Na rwystred drygioni dy was.Rhyddha fi rhag gormes a gorthrwm,A chadwaf ofynion dy ras.Boed llewyrch dy wyneb di arnaf,A dysga dy ddeddfau i mi.Rwy’n wylo am nad ydyw poblYn cadw dy lân gyfraith di.Dwedwch, fawrion o wybodaeth 88.88
137-138 Arglwydd, yr wyt ti yn gyfiawn,Ac y mae dy farnau’n uniawn.Cyfiawn dy farnedigaethau,Cwbl ffyddlon ydwyt tithau.
139-140 Mae ’nghynddaredd wedi cynnauAm fod rhai’n anghofio d’eiriau.Mae d’addewid wedi’i phrofi,Ac rwyf finnau yn ei hoffi.
141-142 Er fy mod i’n llai na’r lleiaf,Dy ofynion nid anghofiaf.Dy gyfiawnder byth sydd berffaith,A gwirionedd yw dy gyfraith.