137-138 Arglwydd, yr wyt ti yn gyfiawn,Ac y mae dy farnau’n uniawn.Cyfiawn dy farnedigaethau,Cwbl ffyddlon ydwyt tithau.
139-140 Mae ’nghynddaredd wedi cynnauAm fod rhai’n anghofio d’eiriau.Mae d’addewid wedi’i phrofi,Ac rwyf finnau yn ei hoffi.
141-142 Er fy mod i’n llai na’r lleiaf,Dy ofynion nid anghofiaf.Dy gyfiawnder byth sydd berffaith,A gwirionedd yw dy gyfraith.
143-144 Er bod gofid ar fy ngwarthaf,Yn d’orchmynion ymhyfrydaf.Cyfiawn dy farnedigaethau;Rho im ddeall, a byw finnau.Tan-y-marian 87.87.D
145-148 Gwaeddaf arnat; Arglwydd, ateb,Ac i’th ddeddfau ufuddhaf.Tyrd i’m gwared, ac fe gadwafDy farnedigaethau braf.Cyn y wawr rwy’n ceisio cymorth,Yn dy air mae ’ngobaith i.Rwy’n myfyrio ym mân oriau’rNos ar dy addewid di.
149-152 Gwrando ’nghri yn ôl dy gariad,’N ôl dy farnau adfer fi.Agos yw f’erlidwyr castiog,Pell oddi wrth dy gyfraith di.Yr wyt ti yn agos, Arglwydd.Mae d’orchmynion oll yn wir.Seiliaist dy farnedigaethauYn dragywydd yn y tir.Eirinwg 98.98.D
153-156 O edrych ar f’adfyd a’m gwared,Cans cofiais dy lân gyfraith di.Amddiffyn fy achos a’m hadfer,Yn ôl dy addewid i mi.Ni ddaw i’r rhai drwg iachawdwriaeth:I’r rhain aeth dy ddeddfau yn sarn.Mawr yw dy drugaredd, O Arglwydd;Adfywia fi’n unol â’th farn.