1-4 Gwyn fyd y rhai perffaith, sy’n rhodioYng nghyfraith yr Arglwydd o hyd,Yn cadw ei farnedigaethau,A’i geisio â’u calon i gyd,Y rhai na wnânt unrhyw ddrygioni,Sy’n rhodio ei ffyrdd heb lesgáu.Fe wnaethost d’ofynion yn ddeddfau,A disgwyl i ni ufuddhau.
5-8 O na allwn gerdded yn union,A chadw dy ddeddfau bob pryd.Ni ddaw im gywilydd os cadwafFy nhrem ar d’orchmynion i gyd.Clodforaf di â chalon gywirWrth ddysgu am dy farnau di-lyth.Mi gadwaf y cyfan o’th ddeddfau;Paid, Arglwydd, â’m gadael i byth.Kilmorey 76.76.D
9-10 Pa fodd y ceidw’r ifaincEu llwybrau’n lân fel ôd?Trwy gadw d’air. O Arglwydd,Fe’th geisiais â’m holl fod.Na ad i mi byth wyroOddi wrth d’orchmynion di.Dy eiriau a drysoraisO fewn fy nghalon i.
11-13 Rwyt fendigedig, Arglwydd;Dy ddeddfau dysg i mi.Bûm droeon yn ailadroddHoll farnau d’enau di.Yn dy farnedigaethauBûm lawen iawn fy mryd;Roedd fy llawenydd ynddyntUwchlaw holl gyfoeth byd.
14-16 Fe fyddaf yn myfyrioAr dy ofynion di,Yn cadw dy holl lwybrauO flaen fy llygaid i.Yr wyf yn ymhyfryduYn neddfau pur y nef,Ac am dy air, O Arglwydd,Byth nid anghofiaf ef.Crug-y-bar 98.98.D