Salmau 119:41-44-65-68 SCN

41-44 Rho dy ffafr a’th iachawdwriaethIm, yn ôl d’addewid daer;Ac atebaf bawb o’m gwawdwyr,Cans gobeithiais yn dy air.Na ddwg air y gwir o’m genau;Yn dy farnau di, fy Nuw,Y gobeithiais; am dy gyfraith:Cadwaf hi tra byddaf byw.

45-48 Rhodio a wnaf yn rhydd oddi amgylch;Ceisiais dy ofynion di.Rhof dy gyfraith i frenhinoedd,Heb gywilydd arnaf fi.Ymhyfrydaf yn d’orchmynion,Ac rwyf yn eu caru hwy.Rwyf yn parchu dy holl ddeddfau,A myfyriaf arnynt mwy.Mount of Olives 87.87.D

49-52 Cofia d’air, y gair y gwnaethostImi ynddo lawenhau.Hyn fu ’nghysur ym mhob adfyd:Fod d’addewid di’n bywhau.Er i’r rhai trahaus fy ngwawdio,Cedwais i bob deddf a roed.Cefais gysur yn dy farnau,Ac fe’u cofiais hwy erioed.

53-56 Digiais wrth y rhai sy’n gwrthodDy lân gyfraith di, fy Nuw,Cans i mi fe fu dy ddeddfau’nGân ble bynnag y bûm byw.Cofiaf d’enw y nos, O Arglwydd;Cadw a wnaf dy gyfraith di.Hyn sydd wir: i’th holl ofynionCwbl ufudd a fûm i.Cwmgiedd 76.76.D

57-60 Ti yw fy rhan, O Arglwydd;Addewais gadw d’air.Rwy’n erfyn, bydd drugarog,Yn ôl d’addewid daer.At dy farnedigaethauFy nghamre a drof fi,A brysio a wnaf i gadwDy holl orchmynion di.

61-64 Dy gyfraith nid anghofiais,Os tyn yw clymau’r fall,Ac am dy farnau cyfiawnMoliannaf di’n ddi-ball.Rwyt ffrind i bawb sy’n cadwD’ofynion di. Mae’r bydYn llawn o’th gariad, Arglwydd;Dysg im dy ddeddfau i gyd.Eirinwg 98.98.D

65-68 Yn unol â’th air, Arglwydd, gwnaethostDdaioni i mi. Dysg i’th wasIawn farnu, cans rwyf yn ymddiriedYn llwyr yng ngorchmynion dy ras.Fe’m cosbaist am fynd ar gyfeiliorn;Yn awr wrth dy air rwyf yn byw.Da wyt, ac yn gwneuthur daioni.Dysg imi dy ddeddfau, O Dduw.