Salmau 119:65-68-89-92 SCN

65-68 Yn unol â’th air, Arglwydd, gwnaethostDdaioni i mi. Dysg i’th wasIawn farnu, cans rwyf yn ymddiriedYn llwyr yng ngorchmynion dy ras.Fe’m cosbaist am fynd ar gyfeiliorn;Yn awr wrth dy air rwyf yn byw.Da wyt, ac yn gwneuthur daioni.Dysg imi dy ddeddfau, O Dduw.

69-72 Parddua’r trahaus fi â chelwydd,Ond cadwaf d’ofynion o hyd.Trymhawyd eu calon gan fraster,Ond dygodd dy gyfraith fy mryd.Mor dda yw i mi gael fy nghosbiEr mwyn imi ddysgu dy air!Mae cyfraith dy enau’n well imiNa miloedd o arian ac aur.Crug-y-bar 98.98.D

73-76 Dy ddwylo a’m gwnaeth; rho im ddeallI ddysgu d’orchmynion; fe bairLawenydd i bawb sy’n dy ofniFy ngweld yn gobeithio yn dy air.Mi wn fod dy farnau yn gyfiawn,Ac nad oedd dy gosb ond gwaith gras.O tyrd i’m cysuro â’th gariad,Yn ôl dy addewid i’th was.

77-80 Er mwyn im gael byw, rho drugaredd,Cans hoffais dy gyfraith i gyd.Celwyddau’r trahaus cywilyddier,Ond ar dy ofynion mae ’mryd.Boed i’r rhai a’th ofnant droi atafI wybod dy farnau, fy Nuw;A bydded, rhag fy nghywilyddio,Dy ddeddfau o’m mewn tra bwyf byw.Eifionydd 87.87.D

81-84 Rwy’n dyheu am iachawdwriaeth;Yn dy air gobeithio a wnaf.Hir ddisgwyliaf am d’addewid,A dywedaf, “Pryd y cafFy nghysuro?” Rwy’n crebachuMegis costrel groen mewn mwg,Ond dy ddeddfau nid anghofiaf.Barna di f’erlidwyr drwg.

85-88 Cloddiodd gwŷr, yn groes i’th gyfraith,Bwll y cwympwn iddo’n syth.Pan erlidiant, tyrd i’m cymorth;Sicr yw d’orchmynion byth.Buont bron â’m lladd, ond etoCedwais dy ofynion diA barnedigaethau d’enau.Rho dy ffafr, adfywia fi.Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D

89-92 O Arglwydd, dy air sy’n dragwyddol;Mae wedi’i sefydlu’n y nef.Y mae dy ffyddlondeb yn para;Fe seiliaist y byd, a saif ef.Saif popeth yn ôl d’ordeiniadau,Cans gweision i ti ŷnt i gyd.Heb gysur dy gyfraith buaswnYn f’ing wedi marw cyn pryd.