73-76 Dy ddwylo a’m gwnaeth; rho im ddeallI ddysgu d’orchmynion; fe bairLawenydd i bawb sy’n dy ofniFy ngweld yn gobeithio yn dy air.Mi wn fod dy farnau yn gyfiawn,Ac nad oedd dy gosb ond gwaith gras.O tyrd i’m cysuro â’th gariad,Yn ôl dy addewid i’th was.
77-80 Er mwyn im gael byw, rho drugaredd,Cans hoffais dy gyfraith i gyd.Celwyddau’r trahaus cywilyddier,Ond ar dy ofynion mae ’mryd.Boed i’r rhai a’th ofnant droi atafI wybod dy farnau, fy Nuw;A bydded, rhag fy nghywilyddio,Dy ddeddfau o’m mewn tra bwyf byw.Eifionydd 87.87.D
81-84 Rwy’n dyheu am iachawdwriaeth;Yn dy air gobeithio a wnaf.Hir ddisgwyliaf am d’addewid,A dywedaf, “Pryd y cafFy nghysuro?” Rwy’n crebachuMegis costrel groen mewn mwg,Ond dy ddeddfau nid anghofiaf.Barna di f’erlidwyr drwg.
85-88 Cloddiodd gwŷr, yn groes i’th gyfraith,Bwll y cwympwn iddo’n syth.Pan erlidiant, tyrd i’m cymorth;Sicr yw d’orchmynion byth.Buont bron â’m lladd, ond etoCedwais dy ofynion diA barnedigaethau d’enau.Rho dy ffafr, adfywia fi.Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D
89-92 O Arglwydd, dy air sy’n dragwyddol;Mae wedi’i sefydlu’n y nef.Y mae dy ffyddlondeb yn para;Fe seiliaist y byd, a saif ef.Saif popeth yn ôl d’ordeiniadau,Cans gweision i ti ŷnt i gyd.Heb gysur dy gyfraith buaswnYn f’ing wedi marw cyn pryd.
93-96 Hyd byth nid anghofiaf d’ofynion;Trwy’r rhain y’m hadfywiaist, fy Nuw.Dy eiddo di wyf. Tyrd i’m hachub,D’ofynion sy’n llywio fy myw.Fe gais y drygionus fy nifa,Ond cadwaf dy farnau di-lyth;Cans gwelaf fod diwedd i bopeth,Ond pery d’orchymyn di byth.Eirinwg 98.98.D
97-100 O fel yr wy’n caru dy gyfraith!Hi yw fy myfyrdod drwy’r dydd.Fe wna dy orchymyn fi’n ddoethachNa’m gelyn; mae’n gyson ei fudd.O ddysgu dy farnedigaethauDeallaf yn well nag y gwnaF’athrawon na neb o’r hynafgwyr,Cans cadw d’ofynion sydd dda.