1-4 Gelwais arnat o’r dyfnderau;Clyw fi, fy Nuw.Arglwydd, gwrando fy ngweddïau;Clyw fi, fy Nuw.Os wyt ti yn sylwi ar fethiant,Pwy a all osgoi difodiant?Ond mae gyda thi faddeuant.Clyw fi, fy Nuw.
5-6 Wrth yr Arglwydd y disgwyliaf;Clyw fi, fy Nuw.Yn ei air ef y gobeithiaf;Clyw fi, fy Nuw.Disgwyl rwyf am Dduw bob cyfle,Mwy na’r gwylwyr am y bore,Mwy na’r gwylwyr am y bore.Clyw fi, fy Nuw.
7-8 Israel, rho dy obaith ynddo;Clyw fi, fy Nuw.Cans y mae ffyddlondeb ganddo;Clyw fi, fy Nuw.Gydag ef y mae yn helaethI bobl Israel waredigaethOddi wrth bob damnedigaeth.Clyw fi, fy Nuw.