1-2 Cofia am Ddafydd, Arglwydd tirion;Cofia am ei holl dreialon;Cofia am ei lw angerddolI Un Grymus Jacob dduwiol:
3-5 “Nid af byth i mewn i’m pabell,Ni chymeraf gwsg na hunell,Ni orffwysaf byth yn unmanNes cael gwneud i’r Arglwydd drigfan”.
6-7 Yn Effratha gynt fe glywsomAm yr arch, ac yna cawsomHi ym meysydd coed y gelli.Awn i’r deml, a phlygwn wrthi.
8-9 Cyfod, Arglwydd, i’th orffwysfa,Ti ac arch dy nerth; a gwisga chyfiawnder dy offeiriaid.Gorfoledded dy ffyddloniaid.
10-11a Er mwyn Dafydd, dy was enwog,Paid â gwrthod dy eneiniog.Gynt i’r brenin Dafydd tyngaistSicr adduned, ac fe’i cedwaist: