1-2a Cadw fi, O Dduw, rhag pobolSy’n ddrygionus a gormesol,Rhai sy’n wastad yn cynllunioYn eu calon ddrwg a chyffro.
2b-3 Maent bob amser yn y dirgelYn ymbaratoi at ryfel.Mîn fel sarff sydd i’w tafodau,Gwenwyn gwiber eu gwefusau.
4-5 Arbed fi rhag llaw’r drygionus,Cadw fi rhag pobl orthrymus.Cuddiodd y trahaus eu maglauAr fy ffordd, a gosod rhwydau.
6-7 Ti yw ’Nuw, O Arglwydd grymus,Gwrando lef fy ngweddi glwyfus.Ti, fy nghadarn iachawdwriaeth,Fu fy helm mewn brwydr ganwaith.