1-2 Gwaeddaf yn daer ar Dduw,Ymbiliaf arno ef;Arllwysaf fy holl gwyn o’i flaen,A dof i’w ŵydd â’m llef.
3 Fe wyddost ti fy llwybrPan balla f’ysbryd i.Maent wedi cuddio magl arY llwybr a gerddaf fi.
4 Tremiais i’r dde, a gweldNad oes un cyfaill im;Nid oes dihangfa imi chwaith,Na neb yn malio dim.
5 Ond gwaeddais arnat ti;Dywedais, “O fy Nuw,Ti, Arglwydd, yw fy noddfa iA’m rhan yn nhir y byw”.
6 Bwriwyd fi’n isel iawn;O gwrando ar fy nghriA’m gwared rhag f’erlidwyr oll,Cans cryfach ŷnt na mi.