1-3 Fy Nuw, O Frenin, fe’th ddyrchafaf di;Dy enw beunydd a fendithiaf fi.Mawr yw yr Arglwydd, teilwng iawn o glod,Ac anchwiliadwy ydyw ei holl fod.
4-5 Molianna’r naill genhedlaeth wrth y llallDy holl weithredoedd nerthol yn ddi-ball.Dywedant am d’ysblander di o hyd,A sylwi ar dy ryfeddodau i gyd.
6-7 Cyhoeddant rym dy holl weithredoedd mawr,Ac adrodd am dy fawredd bob yr awr.Dygant i gof dy holl ddaioni, O Dduw,A chanu am dy gyfiawnder tra bônt byw.
8-9 Graslon a llawn trugaredd ydyw Duw,Araf i ddigio, llawn ffyddlondeb yw.Daionus yw yr Arglwydd wrth bob un,Trugarog wrth holl waith ei ddwylo’i hun.
10-12 Dy waith i gyd a’th fawl, ac mae dy saintYn dy fendithio, O Dduw, gan ddweud am faintDy nerth, a sôn am rwysg dy deyrnas diI beri i bawb weld ei hysblander hi.
13 Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas di,Saif dy lywodraeth byth heb golli’i bri.Ffyddlon yw’r Arglwydd yn ei eiriau i gyd,Trugarog ei weithredoedd ef o hyd.