1-4 Molwch yr Arglwydd! Molwch o’r nefoedd!Molwch, chwi’i holl engyl ef;Haul a lloer a’r sêr bob un,Lluoedd nef, a’r nef ei hun,A’r holl ddyfroedd sydd fry uwch y nef.
5-6 Boed iddynt foli enw yr Arglwydd.Boed iddynt foli’n Duw ni.Ar ei air y crewyd hwy,Ac fe’u gwnaeth yn sicr byth mwy,A rhoes ddeddf iddynt nas torrir hi.
7-9a Molwch yr Arglwydd! Molwch o’r ddaear,Ddreigiau’r dyfnderau i gyd,Cenllysg oer a mwg a thân,Gwynt ystormus, eira mân,Y mynyddoedd a holl fryniau’r byd;
9b-12 Coed a bwystfilod, adar, ymlusgiaid,Pobl a brenhinoedd a hollFarnwyr ac arweinwyr byd,Hen ac ifanc oll ynghyd,A’r gwyryfon a’r gwŷr ifainc oll.