1-2 Fe fûm yn disgwyl, disgwylWrth Dduw, ac yna daeth;Fe blygodd i lawr ataf,A gwrando ’nghri a wnaeth.Fe’m cododd o’r pwll lleidiog,Allan o’r mwd a’r baw,A gwneud fy nghamau’n ddiogelAr graig ddiysgog draw.
3-4 Fe roddodd im gân newyddI’w foli yn ei glyw.Pan welant, ofna llawerA rhoi eu ffydd yn Nuw.Gwyn fyd pawb sy’n ymddiriedYn Nuw, ein craig, o hyd,Ac nad yw’n troi at feilchionNa duwiau gau y byd.
5 O mor niferus, Arglwydd,Dy ryfeddodau diA’th fwriad ar ein cyfer;Does neb, yn wir, fel ti.Dymunwn eu cyhoeddiA’u hadrodd wrth y byd,Ond maent yn rhy niferusI’w rhifo oll i gyd.
6-8 Nid wyt yn hoffi aberthNac offrwm neb heb fodY person hwnnw’n ufudd.Dywedais, “Rwyf yn dod,Mae wedi ei ysgrifennuMewn llyfr amdanaf fiFy mod yn gwneud d’ewyllysYn ôl dy gyfraith di.”
9-10 Cyhoeddais i gyfiawnderI’r gynulleidfa i gyd;Fe wyddost ti, O Arglwydd,Na bûm erioed yn fud.Ni chelais dy ffyddlondeb,Ond traethais bob yr awrDy gariad a’th wirioneddI’r gynulleidfa fawr.
11-12 Paid tithau, Dduw, ag atalTosturi rhagof fi,Ond cadwer fi’n dy gariadA’th fawr wirionedd di.Mae drygau dirifedi’nCau drosof megis llen,Camweddau yn fy nallu,A’u rhif fel gwallt fy mhen.
13-15 Bydd fodlon i’m gwaredu,O Arglwydd; brysia diI’m helpu. CywilyddiaBawb a wnâi ddrwg i mi;A phawb y mae ’nhrallodionYn llonni’u calon hwy,Syfrdana di’r rhai hynny rhyw waradwydd mwy.