1-2 Fe fûm yn disgwyl, disgwylWrth Dduw, ac yna daeth;Fe blygodd i lawr ataf,A gwrando ’nghri a wnaeth.Fe’m cododd o’r pwll lleidiog,Allan o’r mwd a’r baw,A gwneud fy nghamau’n ddiogelAr graig ddiysgog draw.
3-4 Fe roddodd im gân newyddI’w foli yn ei glyw.Pan welant, ofna llawerA rhoi eu ffydd yn Nuw.Gwyn fyd pawb sy’n ymddiriedYn Nuw, ein craig, o hyd,Ac nad yw’n troi at feilchionNa duwiau gau y byd.
5 O mor niferus, Arglwydd,Dy ryfeddodau diA’th fwriad ar ein cyfer;Does neb, yn wir, fel ti.Dymunwn eu cyhoeddiA’u hadrodd wrth y byd,Ond maent yn rhy niferusI’w rhifo oll i gyd.
6-8 Nid wyt yn hoffi aberthNac offrwm neb heb fodY person hwnnw’n ufudd.Dywedais, “Rwyf yn dod,Mae wedi ei ysgrifennuMewn llyfr amdanaf fiFy mod yn gwneud d’ewyllysYn ôl dy gyfraith di.”