3 Ddydd a nos bu ’nagrau’nFwyd i mi a’m clyw’nLlawn o holi’r gelyn:“Ple y mae dy Dduw?”
4 Gofid ydyw cofioMynd mewn torf lawn hwylI dŷ Dduw dan ganu:Tyrfa’n cadw gŵyl.
5 Na thristâ, fy enaid,Ac na thyrfa’n awr!Wrth Dduw y disgwyliaf,Fy ngwaredydd mawr.
6 Na thristâ, fy enaid.Cofiaf Dduw o dirHermon a Bryn MisarA’r Iorddonen ir.
7 Dyfnder eilw ar ddyfnderDy raeadrau di.Mae dy fôr a’i donnauWedi’m llethu i.
8 Liw dydd ei ffyddlondebA orchymyn Duw.Liw nos canaf weddi,Duw fy mywyd yw.
9 Duw, fy nghraig, a holaf,“Pam f’anghofio fi?Pam fy rhoi dan orthrwm?Pam tristáu fy nghri?”