6 Na thristâ, fy enaid.Cofiaf Dduw o dirHermon a Bryn MisarA’r Iorddonen ir.
7 Dyfnder eilw ar ddyfnderDy raeadrau di.Mae dy fôr a’i donnauWedi’m llethu i.
8 Liw dydd ei ffyddlondebA orchymyn Duw.Liw nos canaf weddi,Duw fy mywyd yw.
9 Duw, fy nghraig, a holaf,“Pam f’anghofio fi?Pam fy rhoi dan orthrwm?Pam tristáu fy nghri?”
10 Dirmyg fy ngelynion,Cledd yn f’esgyrn yw.Di-baid y gofynnant,“Ple y mae dy Dduw?”
11 Na thristâ, fy enaid,Ac na thyrfa’n awr!Molaf fy Nuw eto,Fy ngwaredydd mawr.