11-14 Fe’n lleddaist megis defaid,A’n gwasgar ledled byd.Fe’n gwerthaist ni heb elw,A’n gwneud ni’n warth i gyd,Yn destun gwawd a dirmygPob cenedl is y nen.Fe’n gwnaethost yn ddihareb,A’r bobl yn ysgwyd pen.
15-16 Fe’m cuddiwyd mewn cywilyddA gwarth oherwydd senY gelyn a’r dialyddYn seinio yn fy mhen.A hyn i gyd ddaeth arnomEr nad anghofiwn niMohonot, na bradychuDy lân gyfamod di.
17-21 Ni throesom chwaith o’th lwybrauI beri iti’n awrEin sigo yn lle’r siacalauA’n cuddio â chaddug mawr.Ped anghofiasem d’enwA throi at dduw di-fydd,Fe fyddit ti yn gwybod.Does dim i ti yn gudd.
22-26 Ond er dy fwyn fe’n lleddirFel defaid drwy y dydd.Ymysgwyd, pam y cysgi,A’th wyneb teg ynghudd?I’r llwch yr ymostyngwn,Fe’n bwriwyd ni i’r llawr.O cod i’n cynorthwyo,Er mwyn dy gariad mawr.