1-2 Fe glywsom gan ein tadau,O Arglwydd, am y gwaithA wnaethost yn eu dyddiauDros y blynyddoedd maith.Fe droist genhedloedd allan,Ond eto’u plannu hwy.Difethaist bobloedd lawer,Ond llwyddo’n tadau’n fwy.
3-4a Oherwydd nid â’u cleddyfY cawsant hwy y tir,Ac nid â’u braich y cawsantY fuddugoliaeth wir,Ond trwy nerth dy ddeheulawA llewyrch d’wyneb di,Am dy fod yn eu hoffi,Fy Nuw a’m brenin i.
4b-7 Ti sy’n rhoi buddugoliaethI Jacob, trwot tiY sathrwn a darostwngEin holl elynion ni.Nid ymddiriedaf bellachMewn cleddau na bwâu,Cans ti a gywilyddiaistY rhai sy’n ein casáu.
8-10 Yn Nuw y bu ein hymffrost.Clodforwn d’enw mawr;Ond yr wyt wedi’n gwrthod,Ac nid ei di yn awrI ymladd gyda’n byddin,Ond gwnei i ni lesgáu,Ac fe’n hysbeilir bellachGan rai sy’n ein casáu.
11-14 Fe’n lleddaist megis defaid,A’n gwasgar ledled byd.Fe’n gwerthaist ni heb elw,A’n gwneud ni’n warth i gyd,Yn destun gwawd a dirmygPob cenedl is y nen.Fe’n gwnaethost yn ddihareb,A’r bobl yn ysgwyd pen.
15-16 Fe’m cuddiwyd mewn cywilyddA gwarth oherwydd senY gelyn a’r dialyddYn seinio yn fy mhen.A hyn i gyd ddaeth arnomEr nad anghofiwn niMohonot, na bradychuDy lân gyfamod di.
17-21 Ni throesom chwaith o’th lwybrauI beri iti’n awrEin sigo yn lle’r siacalauA’n cuddio â chaddug mawr.Ped anghofiasem d’enwA throi at dduw di-fydd,Fe fyddit ti yn gwybod.Does dim i ti yn gudd.