1 Symbylwyd fy nghalon gan neges sydd braf,Ac adrodd fy nghân am y brenin a wnaf,Ac y mae fy nhafod yn llithro mewn hoen,Fel pin ysgrifennydd yn llithro dros groen.
2-3 Does undyn mor deg ag wyt ti, ac mae grasYn disgyn o’th wefus; bendithiwyd dy dras.O gwisga, ryfelwr, dy gledd ar dy glun;Â mawredd gogoniant addurna dy hun.
4-5 Marchoga o blaid beth sy’n gyfiawn a gwir;Dangosed dy nerth fod llaw Duw yn y tir.Dy saethau yng nghalon d’elynion sydd llym,Syrth pobloedd o danat yn gwbl ddi-rym.
6-7 Tragwyddol dy orsedd, fel gorsedd ein Duw,A gwialen cyfiawnder dy deyrnwialen yw.Am wrthod y drwg, rhoi cyfiawnder mewn bri,Ag olew llawenydd eneiniodd Duw di.
8-9 Myrr, aloes a chasia dy ddillad i gyd,Telynau tai ifori’n canu iti o hyd;Mae tywysogesau’n dy lys mawr ei foeth,A’th wraig wrth dy ochor mewn aur Offir coeth.
10-11 O gwrando di, ferch, a rho sylw er llesâd:Anghofia dy bobl, a chartref dy dad;A’r brenin a chwennych dy degwch yn siŵr,Oherwydd ef ydyw dy arglwydd a’th ŵr.