10-11 O gwrando di, ferch, a rho sylw er llesâd:Anghofia dy bobl, a chartref dy dad;A’r brenin a chwennych dy degwch yn siŵr,Oherwydd ef ydyw dy arglwydd a’th ŵr.
12-13 Ferch Tyrus, ymostwng i’r brenin â rhodd,A braint cyfoethogion fydd rhyngu dy fodd.Mor wych yw’r frenhines sy’n dyfod i’n mysg,A chwrel mewn aur yn addurno ei gwisg.
14-15 Mewn brodwaith fe’i dygir yn rhwysgfawr i’th ŵydd,A’i holl gyfeillesau’n cyflawni eu swydd,Yn dilyn o’i hôl hi yn ysgafn eu bronI balas y brenin yn hapus a llon.
16-17 Yn lle bu dy dadau daw meibion i ti,A thithau a’u gwnei’n dywysogion o fri.A minnau, mynegaf byth bythoedd dy glod:Bydd pobl yn dy ganmol tra bo’r byd yn bod.