1-3 Paid ag ymguddio rhag fy neisyfiad,Gwrando fi, Arglwydd, ateb fy nghri.Rwyf bron â drysu gan sŵn y gelynSydd yn pentyrru drwg arnaf fi.
4-8 Yn f’ofn dywedais, “O na bai gennyfEsgyll colomen; hedwn ar hynt:Crwydro i’r anial, ac aros yno,A cheisio cysgod rhag brath y gwynt”.
9-11 O Dduw, cymysga’u hiaith, canys gwelaisDrais yn y ddinas fore a hwyr;Twyll sy’n ei marchnad, ac mae drygioniWedi amgylchu’i muriau yn llwyr.
12-14 Gallwn ddygymod â gwawd y gelyn,Ond ti, fy ffrind – fe aeth hynny i’r byw!A ninnau’n gymaint ffrindiau â’n gilydd,Ac yn cydgerdded gynt i dŷ Dduw.