1-4 O fy Nuw, amddiffyn fiRhag gwŷr cryfionSydd yn bygwth f’einioes iÂ’u cynllwynion.Heb fod pechod ynof fi,Maent yn chwennychFy nifetha, cyfod di,Tyrd ac edrych.
5-7 Arglwydd Dduw y Lluoedd, tiYw Duw Israel.Cosba’r bobloedd sydd â niYn ymrafael.Dônt fin nos drwy’r dref fel cŵnWynebgaled,Gan fytheirio’n fawr eu sŵn:“Pwy sy’n clywed?”
8-10 Ond fe’u gwawdi di, fy Nuw,Hwy a’u hyfdra.O fy Nerth, ti’n unig ywF’amddiffynfa.Sefi di o’m plaid, heb os,Arglwydd graslon;Rho im fuddugoliaeth drosFy ngelynion.
11-15 Paid â’u lladd, ond gwasgar hwy,A’u darostwng,Am fod geiriau’u genau’n fwyNag annheilwng.Am eu balchder mawr a’u briTyrd i’w cosbi,Fel y gwelo’r byd mai tiSy’n rheoli.