1-2 Cosbaist ni, O Dduw, a’n bylchu,Digiaist wrthym ni.Gwnaethost i’r holl ddaear grynu,Ac fe’i holltaist hi.Simsan dan ei chlwyfau yw;Iachâ ei briw, ac achub hi.
3-5 Gwnaethost inni yfed wermod,Meddwaist ni â gwin.Ond fe roist i’r ffyddlon gysgodRhag y bwa blin.Er mwyn gwared d’annwyl rai,O maddau’n bai, ac ateb ni.
6-7a Fe lefarodd y Goruchaf:“Af i fyny’n awr;Dyffryn Succoth a fesuraf,Rhannaf Sichem fawr.Mae Gilead, led a hyd,Manasse i gyd yn eiddo i mi.
7b-8 Effraim yw fy helm, a JwdaFy nheyrnwialen wir.Moab ydyw fy ymolchfa,A thros Edom dirTaflaf f’esgid. Caf foddhadYn erbyn gwlad Philistia i gyd”.