8 Bobl, ymddiriedwch ynddo ef o hyd;Dewch â’ch cwynion ato; ef yw’ch noddfa glyd.
1-2 Ynot, fy Nuw, yr ymdawelaf fi;
5-6 Craig ac amddiffynfa gadarn ydwyt ti.
9 Nid yw dynolryw’n ddim ond anadl frau;Nid yw teulu dyn ond rhith nad yw’n parhau.Pan roir hwy mewn clorian, codi a wnânt yn chwim,Nid oes pwysau iddynt, maent yn llai na dim.
1-2 Ynot, fy Nuw, yr ymdawelaf fi;
5-6 Craig ac amddiffynfa gadarn ydwyt ti.
10 Na rowch eich ffydd yn ofer bethau’r byd;Os cynydda cyfoeth, na rowch arno’ch bryd.