15-16 Ti, Fynydd Basan, sydd uchel, a thal dy gopaon,Pam yr edrychi mewn cymaint cenfigen ar Seion,Lle y mae DuwWedi ei ddewis i fyw,Cartref ei fythol fendithion?
17-18 Yr oedd cerbydau yr Arglwydd yn filoedd ar filoeddPan ddaeth i’w gysegr yn Seion, a’i gaethion yn lluoedd.Rhoesant i gydRoddion i Dduw yr holl fydYno, lle trig yn oes oesoedd.
19-23 Bendigaid beunydd yw’r Arglwydd. Rhag angau fe’n ceidw.Duw sy’n gwaredu yw Duw’n hiachawdwriaeth; ond geilwYr euog ollO uchder Basan a’r hollForoedd i’w difa yn ulw.
24-27 Gwelir d’orymdaith i’r cysegr, Arglwydd – cantorionAc offerynwyr yn arwain, yna morynionYn canu’n llonIti, Dduw Israel, gerbronY llwythau a’u tywysogion.
28-31 O Dduw, o achos dy deml yn Jerwsalem, brysiedPobl Ethiopia a’r Aifft atat ti gyda’u teyrnged.Ond pâr ddileuY lloi o bobl sy’n dyheuAm ryfel, arian a hoced.
32-35 Canwch i Dduw; rhoddwch foliant i’r Arglwydd, deyrnasoedd.Gwrandewch lais nerthol yr un sy’n marchogaeth y nefoedd.Ofnadwy ywGrym a gogoniant ein Duw.Bendigaid fo yn oes oesoedd.