1-3 Boed i Dduw godi, a boed i’w elynion wasgaru.Fel cwyr mewn tân, boed i’r rhai a’i casâ gael eu chwalu.Bydded i’r drwgDdarfod o’i flaen ef fel mwg,A’r cyfiawn yn gorfoleddu.
4-6 Canwch i Dduw, sy’n marchogaeth trwy dir yr anialwch.Tad yr amddifaid, gwarchodwr y gweddwon. MoliannwchY Duw a wnaethGartref i’r unig a’r caeth,A throi’r rhai drwg i’r diffeithwch.
7-10 Crynodd y ddaear pan aethost trwy’r anial o’n blaenau.Glawiodd y nefoedd o’th flaen di, Dduw Israel, Duw Sinai.Caiff dy braidd fywYn d’etifeddiaeth, O Dduw,A gwyli dros bawb mewn eisiau.
11-14 Rhoes Duw y gair, ac mae llu yn cyhoeddi’r newyddion.Mae’r merched gartref yn rhannu trysorau’r gelynion.Pan chwalodd DuwYno bob byddin a’i llyw,Roedd eira ar Fynydd Salmon.
15-16 Ti, Fynydd Basan, sydd uchel, a thal dy gopaon,Pam yr edrychi mewn cymaint cenfigen ar Seion,Lle y mae DuwWedi ei ddewis i fyw,Cartref ei fythol fendithion?
17-18 Yr oedd cerbydau yr Arglwydd yn filoedd ar filoeddPan ddaeth i’w gysegr yn Seion, a’i gaethion yn lluoedd.Rhoesant i gydRoddion i Dduw yr holl fydYno, lle trig yn oes oesoedd.