1 Diolchwn iti, O Dduw,Ac fe adroddwn ni,Sy’n galw ar dy enw, amDy ryfeddodau di.
2-3 “Pan ddaw yr amser, dofI gywir farnu’r byd.Pan dawdd y ddaear, daliaf fiEi holl golofnau i gyd.
4-5 Dywedaf wrth y balch,‘Na fyddwch yn drahaus’,Ac wrth y drwg, ‘At Dduw, eich Craig,Na fyddwch yn sarhaus’.”
6-7 Ni ddaw o’r dwyrain help,Nac o’r gorllewin chwaith,Nac o’r anialwch, ond bydd Duw’nEin barnu yn ôl ein gwaith.