1-2 Gwaeddais yn daer ar Dduw, ac fe’m clywodd.Ceisiais yr Arglwydd yn nydd fy mhoen –Estyn fy nwylo’n ddiflino ato.Nid oedd i’m henaid gysur na hoen.
3-6 Pan wyf yn meddwl am Dduw, rwy’n cwyno.Cedwaist fi oriau’r nos ar ddi-hun.Cofiaf y dyddiau gynt, a myfyriaf,Ac yn fy ing fe’m holaf fy hun:
7-8 “A fydd fy Nuw am byth yn fy ngwrthod,A chadw’i ffafr oddi wrthyf byth mwy?Beth am ei gariad a’i addewidion:Pa hyd y pery i’w hatal hwy?
9-10 A fwriodd Duw o’i gof bob trugaredd,A chloi’i dosturi yn ei lid llym?”Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid:Collodd deheulaw’r Arglwydd ei grym”.
11-13 Galwaf i gof weithredoedd yr Arglwydd.O Dduw, meddyliaf am dy waith di.Sanctaidd dy ffordd, yn gwneud rhyfeddodau.Pa dduw mor fawr ag yw ein Duw ni?
14-16 Ti yw y Duw sy’n gwneud pethau rhyfedd.Cedwaist â’th fraich blant Israel yn fyw.Gwelodd y dyfroedd di, ac arswydo;Crynodd o’th flaen y dyfnder, O Dduw.Roedd y ffurfafen fry yn taranu,A fflachiodd saethau’r mellt ar bob llaw,
17-18 Ac fe ddisgynnodd dŵr o’r cymylau.Crynodd y ddaear gyfan mewn braw.