1-2 Tro dy glust ataf, Arglwydd, dan fy ffawd,Oherwydd rwy’n anghenus ac yn dlawd.Arbed fy mywyd; teyrngar ydwyf fi,Dy was, ac rwy’n ymddiried ynot ti.
3-5 Ti yw fy Nuw, O Arglwydd; trugarha,Cans gwaeddaf arnat beunydd. LlawenhaDy was, cans arnat y dibynnaf fi;Da a maddeugar, Arglwydd, ydwyt ti.
6-8 Gwrando ar f’ymbil; fy ngweddïau clyw;Yn nydd fy ing, atebi fi, O Dduw.Does neb fel ti ymhlith y duwiau i gyd;Unigryw dy weithredoedd drwy’r holl fyd.
9-11a Fe welir holl genhedloedd byd yn dodI blygu o’th flaen, a rhoi i’th enw glod.Cans rwyt ti’n fawr; gwnei ryfeddodau fyrdd.Ti ydyw’r unig Dduw; dysg im dy ffyrdd.