14b-15a Rhagflaenir di, O Arglwydd da,Gan gariad a gwirionedd.Gwyn fyd y rhai a ddaw mewn parch,A’th gyfarch mewn gorfoledd.
15b-16 Gwyn fyd y rhai sydd yn mwynhauDy ffafrau di bob amser,Sy’n gorfoleddu yn d’enw di,Yn ffoli ar dy gyfiawnder.
17-18 Cans ti yw ein gogoniant ni,Fe beri i’n corn ddyrchafael.Ein tarian ydyw’r Arglwydd Dduw,Ein brenin yw Sanct Israel.Hysbysaist dy ffyddloniaid gynt,Rhoist iddynt weledigaeth:
19 “O blith y bobl coronais lanc,Gŵr ifanc grymus odiaeth.
20-22 Eneiniais Ddafydd, fy ngwas glew,Â’m holew sanctaidd. IddoMi rof fy nerth a’m cryfder i,Ac ni chaiff neb ei goncro.
23-24 Nis trecha’r gelyn yn y gad.Fy nghariad a’m ffyddlondebFydd gydag ef. Yn f’enw byddYsblennydd ei ddisgleirdeb.
25-26 Dros yr afonydd oll a’r môrRhof iddo’r fuddugoliaeth;A dywed ef, ‘Fy nhad, ti ywFy Nuw a’m hiachawdwriaeth’.