1-4 O dial, Arglwydd Dduw, ti farnwr byd,Rho’u haeddiant i’r rhai beilchion. Am ba hydY caiff y drwg, â’u parabl trahaus,Barhau i ymfalchïo mor sarhaus?
5-7 Y maent yn sigo d’etifeddiaeth di,Yn lladd ein gweddwon a’n hamddifaid ni.Llofruddiant yr estroniaid yn ein plith,Cans dweud y maent, “Ni sylwa’r Arglwydd byth”.
8-11 Deallwch hyn, chwi ffyliaid: Oni chlywYr un a blannodd glust, ac onid ywLluniwr pob llygad yn gweld drosto’i hun?Fe ŵyr yr Arglwydd holl feddyliau dyn.
12-15 Gwyn fyd y sawl y dysgi iddo, O Dduw,Dy gyfraith, a’i ddisgyblu. Diogel ywRhag ing. Caiff eto d’etifeddiaeth diFarn deg, a’r uniawn yn ei dilyn hi.
16-18 Pwy a saif drosof rhag y rhai a wnaWeithredoedd drwg? Mi fyddwn, Arglwydd da,Yn nhir y bedd ond am dy gymorth di.Pan lithrwn, daliai dy ffyddlondeb fi.
19-21 Er bod pryderon mawr yn fy nhristáu,Mae dy gysuron di’n fy llawenhau.A wnei di gynghrair gyda barnwyr sy’nCondemnio’r cyfiawn, ac yn elwa’u hun?