3-4 Oherwydd mawr yw’r Arglwydd Dduw;Brenin goruwch y duwiau yw.Ef biau ddyfnder daear lawrAc uchder y mynyddoedd mawr.
5-6a Ef biau’r môr, ac ef a’i gwnaeth;Y sychdir oll, o drum i draeth,A greodd ef â’i ddwylo hud.Dewch, ac addolwn ef ynghyd.
6b-7a I’r Arglwydd plygwn, cans ef ywYr un a’n gwnaeth; ef yw ein Duw,A ninnau’n bobl iddo ef,Yn ddefaid ar borfeydd y nef.
7b-8 O wrando ar ei lais, fe gewchEi rym, ond nac anufuddhewch,Fel eich cyn-dadau ar eu hyntYn llwch Meriba a Massa gynt.
9-11 “Profasant fi, er gweld fy ngwaith.Dros ddeugain mlynedd blin eu taithFfieiddiais hwy, a’u her a’u brad,A dweud na chaent feddiannu’r wlad.”