1 Canwch oll i’r ArglwyddNewydd gân, oherwyddGwnaeth weithredoedd odiaeth;Cafodd fuddugoliaeth.
2 Rhoddodd Duw wybodaethAm ei iachawdwriaeth.Dengys ei gyfiawnderI genhedloedd lawer.
3 Deil ei serch yn ddiogelAt ei bobl, Israel.Cafodd pob tiriogaethWeld ei iachawdwriaeth.
4 Rhowch i Dduw wrogaeth,Yr holl ddaear helaeth.Canwch mewn llawenydd,A rhowch fawl yn ddedwydd.
5-6 Canwch iddo â thannauTelyn a thympanau.Rhowch wrogaeth ddibrinO flaen Duw, y brenin.