18-21 Nesâ ataf i’m gwaredu,Cans, O Dduw, fe wyddost tiFy nghywilydd, ac adwaenostNatur fy ngelynion i.Fe ddisgwyliais am dosturiAc am gysur, heb eu cael.Rhoesant wenwyn yn fy ymborth,Ac, i’w yfed, finegr gwael.
22-29 Rhwyder hwy yn eu haberthau.Torra’u grym, a daller hwy.Boed eu tai yn anghyfannedd,Canys gwnânt fy mriwiau’n fwy.Cosba hwy, a’u cosbi eilwaith,A’u dileu o lyfr y byw.Yr wyf fi mewn poen a gofid.Cod fi i fyny, O fy Nuw.
30-33 Molaf enw Duw, a rhoddafDdiolchgarwch iddo ar gân.Gwell fydd hynny gan yr ArglwyddNag aberthau gwych o’r tân.Gwelwch hyn, a byddwch lawen,Chwi drueiniaid a gais Dduw,Cans fe wrendy gri’r anghenus,Ac i’r caethion ffyddlon yw.
34-36 Boed i’r nefoedd oll a’r ddaearEi foliannu yn un côr,A boed iddo dderbyn moliantPopeth byw sydd yn y môr.Cans bydd Duw’n gwaredu Seion;Fe wna Jwda eto’n gref.Fe drig plant ei weision yno,A’r rhai sy’n ei garu ef.