1-4a Gwared fi, O Dduw, oherwyddRwyf yn suddo’n ddwfn mewn llaid;Dyfroedd sy’n fy sgubo ymaith,Blinais weiddi yn ddi-baid.Mae fy llygaid wedi pylu’nDisgwyl, Dduw, amdanat ti.Mae ’ngelynion ffals yn amlachNag yw ’ngwallt na’m hesgyrn i.
4b-6 Sut y gallaf fi ddychwelydBeth nas dygais yn fy myw?Gwyddost ti fy ffolinebau,A’m camweddau i gyd, fy Nuw.Ond na foed i’r rhai a’th geisioWeld fy nhynged i yn awr,Rhag i’w ffydd yn d’allu ddarfod,Arglwydd Dduw y Lluoedd mawr.
7-12 Er dy fwyn y’m gwaradwyddwyd.Gwadodd fy holl deulu i.Sêl dy dŷ a’m hysodd; teimlafWawd y rhai a’th wawdia di.Ceblir fi pan wy’n ymprydio,Rwyf yn wrthrych straeon casYn y ddinas, ac yn destunI ganeuon meddwon cras.
13-17 Ond daw ’ngweddi atat, Arglwydd,Ar yr amser priodol, Dduw.Yn dy gariad mawr, rho ateb.Gwared fi, fel y caf fyw.Achub fi o’r llaid a’r dyfroedd,Rhag i’r pwll fy llyncu i.Ateb fi yn dy drugaredd,Canys da dy gariad di.
18-21 Nesâ ataf i’m gwaredu,Cans, O Dduw, fe wyddost tiFy nghywilydd, ac adwaenostNatur fy ngelynion i.Fe ddisgwyliais am dosturiAc am gysur, heb eu cael.Rhoesant wenwyn yn fy ymborth,Ac, i’w yfed, finegr gwael.
22-29 Rhwyder hwy yn eu haberthau.Torra’u grym, a daller hwy.Boed eu tai yn anghyfannedd,Canys gwnânt fy mriwiau’n fwy.Cosba hwy, a’u cosbi eilwaith,A’u dileu o lyfr y byw.Yr wyf fi mewn poen a gofid.Cod fi i fyny, O fy Nuw.