1 Gwyn ei fyd y sawlnad yw'n dilyn cyngor y drygionusnac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaidnac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr,
2 ond sy'n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDDac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.
3 Y mae fel prenwedi ei blannu wrth ffrydiau dŵrac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor,a'i ddeilen heb fod yn gwywo.Beth bynnag a wna, fe lwydda.
4 Nid felly y bydd y drygionus,ond fel us yn cael ei yrru gan wynt.
5 Am hynny, ni saif y drygionus yn y farnna phechaduriaid yng nghynulleidfa'r cyfiawn.