1 O Dduw, gwareda fi trwy dy enw,a thrwy dy nerth cyfiawnha fi.
2 O Dduw, gwrando fy ngweddi,rho glust i eiriau fy ngenau.
3 Oherwydd cododd gwŷr trahaus yn fy erbyn,ac y mae gwŷr didostur yn ceisio fy mywyd;nid ydynt yn meddwl am Dduw.Sela
4 Wele, Duw yw fy nghynorthwywr,fy Arglwydd yw cynhaliwr fy mywyd.
5 Bydded i ddrygioni ddychwelyd ar fy ngelynion!Trwy dy wirionedd diddyma hwy.
6 Aberthaf yn ewyllysgar i ti;clodforaf dy enw, O ARGLWYDD, oherwydd da yw;
7 oherwydd gwaredodd fi o bob cyfyngder,a gwneud imi orfoleddu dros fy ngelynion.