Y Salmau 135 BCN

1 Molwch yr ARGLWYDD.Molwch enw'r ARGLWYDD,molwch ef, chwi weision yr ARGLWYDD,

2 sy'n sefyll yn nhŷ'r ARGLWYDD,yng nghynteddoedd ein Duw.

3 Molwch yr ARGLWYDD, oherwydd da yw ef;canwch i'w enw, oherwydd y mae'n ddymunol.

4 Dewisodd yr ARGLWYDD Jacob iddo'i hunan,ac Israel yn drysor arbennig iddo.

5 Oherwydd fe wn i fod yr ARGLWYDD yn fawr,a bod ein Harglwydd ni yn rhagori ar yr holl dduwiau.

6 Fe wna'r ARGLWYDD beth bynnag a ddymuna,yn y nefoedd ac ar y ddaear,yn y moroedd a'r holl ddyfnderau.

7 Pâr i gymylau godi o derfynau'r ddaear;fe wna fellt ar gyfer y glaw,a daw gwynt allan o'i ystordai.

8 Fe drawodd rai cyntafanedig yr Aifft,yn ddyn ac anifail;

9 anfonodd arwyddion a rhybuddion trwy ganol yr Aifft,yn erbyn Pharo a'i holl ddeiliaid.

10 Fe drawodd genhedloedd mawrion,a lladd brenhinoedd cryfion—

11 Sihon brenin yr Amoriaid,Og brenin Basan,a holl dywysogion Canaan;

12 rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth,yn etifeddiaeth i'w bobl Israel.

13 Y mae dy enw, O ARGLWYDD, am byth,a'th enwogrwydd o genhedlaeth i genhedlaeth.

14 Oherwydd fe rydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobl,a bydd yn trugarhau wrth ei weision.

15 Arian ac aur yw delwau'r cenhedloedd,ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.

16 Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad,a llygaid nad ydynt yn gweld;

17 y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed,ac nid oes anadl yn eu ffroenau.

18 Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt,ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt.

19 Dylwyth Israel, bendithiwch yr ARGLWYDD;Dylwyth Aaron, bendithiwch yr ARGLWYDD.

20 Dylwyth Lefi, bendithiwch yr ARGLWYDD;pob un sy'n ofni'r ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD.