Y Salmau 94 BCN

1 O ARGLWYDD, Dduw dial,Dduw dial, ymddangos.

2 Cyfod, O farnwr y ddaear,rho eu haeddiant i'r balch.

3 Am ba hyd y bydd y drygionus, ARGLWYDD,y bydd y drygionus yn gorfoleddu?

4 Y maent yn tywallt eu parabl trahaus;y mae'r holl wneuthurwyr drygioni'n ymfalchïo.

5 Y maent yn sigo dy bobl, O ARGLWYDD,ac yn poenydio dy etifeddiaeth.

6 Lladdant y weddw a'r estron,a llofruddio'r amddifad,

7 a dweud, “Nid yw'r ARGLWYDD yn gweld,ac nid yw Duw Jacob yn sylwi.”

8 Deallwch hyn, chwi'r dylaf o bobl!Ffyliaid, pa bryd y byddwch ddoeth?

9 Onid yw'r un a blannodd glust yn clywed,a'r un a luniodd lygad yn gweld?

10 Onid oes gan yr un sy'n disgyblu cenhedloedd gerydd,a'r un sy'n dysgu pobl wybodaeth?

11 Y mae'r ARGLWYDD yn gwybod meddyliau pobl,mai gwynt ydynt.

12 Gwyn ei fyd y sawl a ddisgybli, O ARGLWYDD,ac a ddysgi allan o'th gyfraith,

13 i roi iddo lonyddwch rhag dyddiau adfyd,nes agor pwll i'r drygionus.

14 Oherwydd nid yw'r ARGLWYDD yn gwrthod ei bobl,nac yn gadael ei etifeddiaeth;

15 oherwydd dychwel barn at y rhai cyfiawn,a bydd yr holl rai uniawn yn ei dilyn.

16 Pwy a saif drosof yn erbyn y drygionus,a sefyll o'm plaid yn erbyn gwneuthurwyr drygioni?

17 Oni bai i'r ARGLWYDD fy nghynorthwyobyddwn yn fuan wedi mynd i dir distawrwydd.

18 Pan oeddwn yn meddwl bod fy nhroed yn llithro,yr oedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal.

19 Er bod pryderon fy nghalon yn niferus,y mae dy gysuron di'n fy llawenhau.

20 A fydd cynghrair rhyngot ti a llywodraeth distryw,sy'n cynllunio niwed trwy gyfraith?

21 Cytunant â'i gilydd am fywyd y cyfiawn,a chondemnio'r dieuog i farw.

22 Ond y mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn i mi,a'm Duw yn graig i'm llochesu.