1 Molwch yr ARGLWYDD.Da yw canu mawl i'n Duw ni,oherwydd hyfryd a gweddus yw mawl.
2 Y mae'r ARGLWYDD yn adeiladu Jerwsalem,y mae'n casglu rhai gwasgaredig Israel.
3 Y mae'n iacháu'r rhai drylliedig o galon,ac yn rhwymo eu doluriau.
4 Y mae'n pennu nifer y sêr,ac yn rhoi enwau arnynt i gyd.
5 Mawr yw ein Harglwydd ni, a chryf o nerth;y mae ei ddoethineb yn ddifesur.
6 Y mae'r ARGLWYDD yn codi'r rhai gostyngedig,ond yn bwrw'r drygionus i'r llawr.
7 Canwch i'r ARGLWYDD mewn diolch,canwch fawl i'n Duw â'r delyn.
8 Y mae ef yn gorchuddio'r nefoedd â chymylau,ac yn darparu glaw i'r ddaear;y mae'n gwisgo'r mynyddoedd â glaswellt,a phlanhigion at wasanaeth pobl.
9 Y mae'n rhoi eu porthiant i'r anifeiliaid,a'r hyn a ofynnant i gywion y gigfran.
10 Nid yw'n ymhyfrydu yn nerth march,nac yn cael pleser yng nghyhyrau gŵr;
11 ond pleser yr ARGLWYDD yw'r rhai sy'n ei ofni,y rhai sy'n gobeithio yn ei gariad.
12 Molianna yr ARGLWYDD, O Jerwsalem;mola dy Dduw, O Seion,
13 oherwydd cryfhaodd farrau dy byrth,a bendithiodd dy blant o'th fewn.
14 Y mae'n rhoi heddwch i'th derfynau,ac yn dy ddigoni â'r ŷd gorau.
15 Y mae'n anfon ei orchymyn i'r ddaear,ac y mae ei air yn rhedeg yn gyflym.
16 Y mae'n rhoi eira fel gwlân,yn taenu barrug fel lludw,
17 ac yn gwasgaru ei rew fel briwsion;pwy a all ddal ei oerni ef?
18 Y mae'n anfon ei air, ac yn eu toddi;gwna i'w wynt chwythu, ac fe lifa'r dyfroedd.
19 Y mae'n mynegi ei air i Jacob,ei ddeddfau a'i farnau i Israel;