1 Ger afonydd Babilon yr oeddem yn eistedd ac yn wylowrth inni gofio am Seion.
2 Ar yr helyg ynobu inni grogi ein telynau,
3 oherwydd yno gofynnodd y rhai a'n caethiwai am gân,a'r rhai a'n hanrheithiai am ddifyrrwch.“Canwch inni,” meddent, “rai o ganeuon Seion.”
4 Sut y medrwn ganu cân yr ARGLWYDDmewn tir estron?
5 Os anghofiaf di, Jerwsalem,bydded fy neheulaw'n ddiffrwyth;
6 bydded i'm tafod lynu wrth daflod fy ngenauos na chofiaf di,os na osodaf Jerwsalemyn uwch na'm llawenydd pennaf.
7 O ARGLWYDD, dal yn erbyn pobl Edomddydd gofid Jerwsalem,am iddynt ddweud, “I lawr â hi, i lawr â hihyd at ei sylfeini.”
8 O ferch Babilon, a ddistrywir,gwyn ei fyd y sawl sy'n talu'n ôl i tiam y cyfan a wnaethost i ni.
9 Gwyn ei fyd y sawl sy'n cipio dy blantac yn eu dryllio yn erbyn y graig.