Y Salmau 44 BCN

I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Mascîl.

1 O Dduw, clywsom â'n clustiau,dywedodd ein hynafiaid wrthymam y gwaith a wnaethost yn eu dyddiau hwy,yn y dyddiau gynt â'th law dy hun.

2 Gyrraist genhedloedd allan,ond eu plannu hwy;difethaist bobloedd,ond eu llwyddo hwy;

3 oherwydd nid â'u cleddyf y cawsant y tir,ac nid â'u braich y cawsant fuddugoliaeth,ond trwy dy ddeheulaw a'th fraich di,a llewyrch dy wyneb, am dy fod yn eu hoffi.

4 Ti yw fy Mrenin a'm Duw,ti sy'n rhoi buddugoliaeth i Jacob.

5 Trwot ti y darostyngwn ein gelynion,trwy dy enw y sathrwn ein gwrthwynebwyr.

6 Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf,ac nid fy nghleddyf a'm gwareda.

7 Ond ti a'n gwaredodd rhag ein gelyniona chywilyddio'r rhai sy'n ein casáu.

8 Yn Nuw yr ydym erioed wedi ymffrostio,a chlodforwn dy enw am byth.Sela

9 Ond yr wyt wedi'n gwrthod a'n darostwng,ac nid ei allan mwyach gyda'n byddinoedd.

10 Gwnei inni gilio o flaen y gelyn,a chymerodd y rhai sy'n ein casáu yr ysbail.

11 Gwnaethost ni fel defaid i'w lladd,a'n gwasgaru ymysg y cenhedloedd.

12 Gwerthaist dy bobl am y nesaf peth i ddim,ac ni chefaist elw o'r gwerthiant.

13 Gwnaethost ni'n warth i'n cymdogion,yn destun gwawd a dirmyg i'r rhai o'n hamgylch.

14 Gwnaethost ni'n ddihareb ymysg y cenhedloedd,ac y mae'r bobloedd yn ysgwyd eu pennau o'n plegid.

15 Y mae fy ngwarth yn fy wynebu beunydd,ac yr wyf wedi fy ngorchuddio â chywilydd

16 o achos llais y rhai sy'n fy ngwawdio a'm difrïo,ac oherwydd y gelyn a'r dialydd.

17 Daeth hyn i gyd arnom, a ninnau heb dy anghofiona bod yn anffyddlon i'th gyfamod.

18 Ni throdd ein calon oddi wrthyt,ac ni chamodd ein traed o'th lwybrau,

19 i beri iti ein hysigo yn nhrigfa'r siacala'n gorchuddio â thywyllwch dudew.

20 Pe baem wedi anghofio enw ein Duwac estyn ein dwylo at dduw estron,

21 oni fyddai Duw wedi canfod hyn?Oherwydd gŵyr ef gyfrinachau'r galon.

22 Ond er dy fwyn di fe'n lleddir drwy'r dydd,a'n trin fel defaid i'w lladd.

23 Ymysgwyd! Pam y cysgi, O Arglwydd?Deffro! Paid â'n gwrthod am byth.

24 Pam yr wyt yn cuddio dy wynebac yn anghofio'n hadfyd a'n gorthrwm?

25 Y mae ein henaid yn ymostwng i'r llwch,a'n cyrff yn wastad â'r ddaear.

26 Cyfod i'n cynorthwyo.Gwareda ni er mwyn dy ffyddlondeb.