Y Salmau 9 BCN

I'r Cyfarwyddwr: ar Muth-labben. Salm. I Ddafydd.

1 Diolchaf i ti, ARGLWYDD, â'm holl galon,adroddaf am dy ryfeddodau.

2 Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti,canaf fawl i'th enw, y Goruchaf.

3 Pan dry fy ngelynion yn eu holau,baglant a threngi o'th flaen.

4 Gwnaethost yn deg â mi yn fy achos,ac eistedd ar dy orsedd yn farnwr cyfiawn.

5 Ceryddaist y cenhedloedd a difetha'r drygionus,a dileaist eu henw am byth.

6 Darfu am y gelyn mewn adfeilion bythol;yr wyt wedi chwalu eu dinasoedd,a diflannodd y cof amdanynt.

7 Ond y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu am byth,ac wedi paratoi ei orsedd i farn.

8 Fe farna'r byd mewn cyfiawnder,a gwrando achos y bobloedd yn deg.

9 Bydded yr ARGLWYDD yn amddiffynfa i'r gorthrymedig,yn amddiffynfa yn amser cyfyngder,

10 fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot;oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio.

11 Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n trigo yn Seion,cyhoeddwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.

12 Fe gofia'r dialydd gwaed amdanynt;nid yw'n anghofio gwaedd yr anghenus.

13 Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, sy'n fy nyrchafu o byrth angau;edrych ar fy adfyd oddi ar law y rhai sy'n fy nghasáu,

14 imi gael adrodd dy holl fawla llawenhau yn dy waredigaeth ym mhyrth merch Seion.

15 Suddodd y cenhedloedd i'r pwll a wnaethant eu hunain,daliwyd eu traed yn y rhwyd yr oeddent hwy wedi ei chuddio.

16 Datguddiodd yr ARGLWYDD ei hun, gwnaeth farn;maglwyd y drygionus gan waith ei ddwylo'i hun.Higgaion. Sela

17 Bydded i'r drygionus ddychwelyd i Sheol,a'r holl genhedloedd sy'n anghofio Duw.

18 Oherwydd nid anghofir y tlawd am byth,ac ni ddryllir gobaith yr anghenus yn barhaus.

19 Cyfod, ARGLWYDD; na threched meidrolion,ond doed y cenhedloedd i farn o'th flaen.